Bangkok

Ionawr 10fed, 2005

Ers i mi ddychwelyd i Wlad Thai ar Ionawr 7fed, mae’r bobl yma mewn sioc ac wedi’u hysgwyd yn ddifrifol wedi trychineb y Tsunami ar ddydd San Steffan. Rwyf mor ddiolchgar a lwcus i allu ddweud nad wyf wedi colli un o’m ffrindiau na’m teulu, er fy mod i wedi clywed llu o hanesion erchyll gan ffrindiau. Er mwyn ceisio gwneud rhywbeth bach i helpu rwy’n bwriadu cynnal sawl cyngerdd (lleoliadau a dyddiadau i ddilyn) yn ol yng Nghymru ym mis Ebrill a’r arian i gyd yn mynd tuag at apel Y Groes Goch Thai. Mae cyngerdd arall ar Ionawr 29ain yn Bangkok sydd hefyd yn mynd yn uniongyrchol tuag at helpu’r dioddefwyr.
Gan ddymuno y bydd gweddill 2005 yn gwella ac yn fwy heddychlon i bawb.

Vimarnmek Palace

Neges 21 Tachwedd 2004

Sawdee Kha!
Mae’n 34C yn Bangkok heddiw, a hwn yw’r tymor ‘cwl’ ond dyw hi ddim yn teimlo felly! Mae’r Ganolfan Delyn wedi bod yn brysur gyda 7 o ddisgyblion wedi sefyll eu harholiadau ABRSM (Gradd 3 a 5). Mae diwedd Tachwedd yn golygu bod y gwyliau ar fin cyrraedd (i ddathlu penblwydd y Brenin Thai ar y 5ed o Ragfyr ac yna dwi’n dathlu’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd!) Ym 2005 rwy’n gobeithio gweld agoriad adran i’r delyn mewn un neu ddau o brifysgolion Bangkok. Mae yna sawl gyngerdd hefyd yn cael eu cynllunio hefyd, gyda pherfformwyr o dramor yn dod i gadw cwmni a fi ar y llwyfan.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Elerix

 

Ionawr 2004

Mae’r ganolfan delyn yn Bangkok yn mynd o nerth i nerth, erbyn hyn mae dros 40 o ddisgyblion wedi cofrestru. Maent yn amrywio o ran oedran (7oed – ? ?!) ac o safbwynt eu gwybodaeth am gerddoriaeth Gorllewinol. Mae sawl un wedi sefyll arholiadau Associated Board ar y delyn ac wedi llwyddo yn arbennig.
Mae cynlluniau ar y gweill i ymweld â Phrifysgol Chulalongkorn i roi darlithoedd ar hanes a repertoire y delyn yn ystod y tymor. Eisoes mae nifer o fyfyrwyr cyfansoddi wedi ymweld â’r ganolfan er mwyn dysgu am ysgrifennu’n gywir i’r delyn. Y bwriad yw i berfformio rhai o’u cyfansoddiadau i’r delyn yn y cyngherddau yn Tamnak Prathom.
Mae’r tywydd yn parhau yn boeth a’r bobl Thai dal i wenu!
Hwyl am y tro,
Sawadee Kha!
Eleri

2 Rhagfyr 2002

Rwyf wedi bod mor brysur yn dysgu a perfformio, mae’r amser wedi hedfan. Rwy’n mynd i Chiang Mai wythnos nesaf (9 – 13eg Rhagfyr) cyn dychwelyd i Bangkok ar gyfer fy nghyngerdd olaf ar yr 21ain. Rwyf wedi cael cynnig i chwarae ‘da’r Bangkok Symphony Orchestra ym mis Ebrill, felly bydd hynny’n grêt. Mae dal yn boeth fan hyn (tua 32’C) ond mae’r bobl leol yn dweud wrthai mai hyn yw’r tymor ‘cwl’. Dwi ddim yn edrych ‘mlaen i fod yn y tymor ‘poeth’!

xx Eleri xx

16 Tachwedd 2002.

Sawasdee kha! o Bangkok

Rwy’n cael amser ffantastig yma yn Bangkok. Mor brysur bob dydd, heb gael amser i weld dim ‘sights’ eto!

Wedi chwarae yn y Llysgenhadaeth Prydeinig ac yfory (Sul) cyngerdd yn Chintakam am 11y bore!

Wnai Sgrifennu eto fi mewn internet cafe sy’n cau ymhen ychydig am 10pm. Ond allwch chi pasio’n nymuniadau gorau mlaen i’r côr?

Fi’n trio addysgu’r Dywysoges am alawon Cymreig ac mae’n gofyn i fi ganu a chwarae’r delyn ar yr un pryd (allai ddim!) felly wnai trio dweud wrthi mai côr sydd angen i wneud daioni a’r caneuon!

Hwyl am y tro! (ddim yn siwr pryd mae’r CD yn mynd i fod yn barod, heb siarad a’n rhieni ers wythnos!)

Cofion gorau, Elerix

 

 


Teml Emerald Buddha, Bangkok