Eleri Rhiannon Darkins
Ganed Eleri yn Nhredegar a dechreuodd ganu’r delyn pan oedd yn naw oed gydag Alwena Roberts ym Mhontypridd ac yna, yn ddiweddarach gyda Meinir Heulyn. Graddiodd ym 1996 gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Cymru, Bangor, lle astudiodd gydag Elinor Bennett. Tra ym Mangor, enillodd wobr Eric Morris am y datganiad terfynol gorau, cafodd ARCM a’i dewis yn unawdydd consierto i berfformio Consierto Telyn Mathias. Ym 1997, cwblhaodd cwrs ôl-radd yng Ngholeg Cerdd y Drindod, Llundain o dan hyfforddiant Sioned Williams.
Mae Eleri wedi ennill amryw o wobrau mewn Eisteddfodau Cenedlaethol, Ysgoloriaeth Nansi Richards, Gwobr Goffa John Weston Thomas a Gwyliau Cerdd Dant, yn arbennig y gystadleuaeth Deuawd Telyn Agored ym 1990 ym Mangor, pan ddaeth hi a Katherine Thomas i’r brig yn perfformio ‘Clymau Cytgerdd’ Osian Ellis.
Mae Eleri wedi beirniadu yn adran y delyn yn yr Wyl Gerdd Dant yn 2008, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri (2012), Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych (2013) yn ogystal â chyfeilio mewn cystadleuthau Cerdd Dant amrywiol dros y blynyddoedd.
Wrth ganu’r delyn deires ymddangosodd Eleri ar sawl rhaglen deledu yn ogystal ag yn agoriad y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999.
Rhwng 2002 a 2005 symudodd Eleri i Bangkok i ddysgu ac i berfformio mewn ysgol delyn arbennig (Canolfan Tamnak Prathom). Bu’n gyfnod cyffrous a fu’n allweddol i hybu poblogrwydd ein hofferyn cenedlaethol yng Ngwlad Thai. Mae’r ganolfan yn parhau i ddysgu’r delyn i dros 60 o ddisgyblion ac mae Eleri yn cadw mewn cysylltiad wrth ymweld a pherfformio yno ar adegau arbennig. Ym mis Awst 2012 aeth Eleri a’r teulu i Bangkok i ddathlu 10mlynedd ers agor y ganolfan.
Erbyn hyn, mae Eleri yn byw yn Nelson gyda’i gŵr a’u dau fab, Siôn a Harri. Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â mi: eleri.darkins@btinternet.com
Mae gan Eleri ddiddordeb yn y delyn deires, yn enwedig canu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Gwneuthpwyd ei thelyn deires (Gwalia) gan John Weston Thomas. Clywid hi ar y delyn deires yn agoriad y Cynulliad yng Nghaerdydd ym Mai, 1999 yn perfformio gyda Elinor Bennett, Meinir Heulyn a Katherine Thomas. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno aeth Eleri draw i Galiffornia i lansio CD ‘Yn Iaith y Nefoedd’ a chynnal cyfres o gyngherddau â’r delyn deires.
Gwaith Elusennol
Rwyf yn falch o allu helpu elusennau wrth berfformio ar y delyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi gwneud cyngherddau i’r elusennau hyn:
Save the Children with Cor Rhosyn Ladies Choir (http://www.corrhosyn.co.uk)
Eisteddfod yr Urdd 2015 with Abercynon Male Voice Choir
( http://www.abercynonmalechoir.co.uk)
Cylch Meithrin Nelson
Music in Hospitals (http://www.musicinhospitals.org.uk) – performing at various homes and wards:
Greenhill Care Home, Merthyr,
Bronllys Hospital
Plas Newydd Nursing Home, Cefn Coed y Cymer
Ysbyty George Thomas, Treorchy
Ystrad Fechan Care Home, Treorchy
Parc Wern, Ammanford
Ty Bryn, Abersychan
Adolygiadau am Eleri Darkins:
‘…a delightful concert with a great performance on the harp.’
Lady Worsley, LMN Committee Member,
Malton Methodist Church – Ryedale Festival.
‘Her end recital was wonderful – the programme was most challenging and performed with great conviction and style.’
Sioned Williams (Principal Harpist, BBCSO &
Director of Harp Studies at Trinity College of Music, London)
‘You play superbly and it’s a pleasure to have you perform with us.’
Michael Bell (conductor CPO)
‘Diolch yn fawr iawn Eleri am noswaith bendigedig!’
Cynthia & John (Cymdeithas Gymraeg Chelmsford, 21/05/01)